SL(6)535 – Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol ac Amrywiol) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (Deddf 2024) i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) a Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (Deddf 1992).

Er enghraifft, mae’r Rheoliadau yn diwygio:

§  offerynnau statudol amrywiol er mwyn sicrhau bod yr offerynnau hynny’n cyfeirio at adrannau newydd 41ZA a 52ZA o Ddeddf 1988, sy’n ymdrin â llunio a chadw rhestrau ardrethu annomestig o ran Cymru;

 

§  Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 er mwyn sicrhau eu bod yn cyfeirio at y darpariaethau priodol yn Neddf 1992.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau eraill nad ydynt yn ganlyniadol i Ddeddf 2024 ac yn dirymu offerynnau statudol neu’n hepgor darpariaethau nad ydynt yn cael effaith  mwyach.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(i) – ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires.

Mae’r rhaglith i’r Rheoliadau yn dweud bod adran 54(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 yn un o’r pwerau a ddefnyddiwyd gan Weinidogion Cymru i wneud y Rheoliadau.

Mae troednodyn i’r rhaglith yn dweud bod y pŵer yn adran 54(1) wedi’i drosglwyddo, o ran Cymru, oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr oedd ar y pryd drwy Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau ym 1999[1], ac yna oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Fodd bynnag, wedi edrych ar y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau, nid yw’n ymddangos bod y pŵer yn adran 54(1) wedi’i drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr oedd ar y pryd. Er bod y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau yn trosglwyddo llawer o’r pwerau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, nid oedd y pŵer yn adran 54(1) yn un ohonynt.

Felly, i’r graddau y gwneir y Rheoliadau o dan adran 54(1), mae’n ymddangos bod amheuaeth a ydynt intra vires.

2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 6(4) a (5), dylai “is-baragraff (ii)” ddweud “paragraff (ii)”.

3. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 23 yn ymdrin â diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 (Rheoliadau 1989).

Mae rheoliad 23 yn dweud:

23. Mae’r diwygiadau a wnaed i reoliad 3(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 gan baragraff 1(b) o Atodlen 1 i Orchymyn Llywodraeth Leol (Ardrethu Annomestig) (Diwygiadau Canlyniadol) (Lloegr) 2008 a rheoliad 2(b) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Canlyniadol a Diwygiadau Eraill etc.) (Lloegr) 2023 yn gymwys mewn perthynas â hereditamentau yng Nghymru.

Felly, nid yw rheoliad 23 yn diwygio testun Rheoliadau 1989. Yn hytrach, y cwbl y mae rheoliad 23 yn ei ddweud yw fod newidiadau a wnaed i Reoliadau 1989 o ran Lloegr hefyd yn gymwys o ran Cymru.

Nid yw’n glir pam y mae Gweinidogion Cymru wedi mabwysiadu’r dull hwn, yn hytrach na gwneud eu diwygiadau testunol eu hunain i Reoliadau 1989. Ymddengys i ni y byddai gwneud diwygiadau testunol wedi bod yn gliriach ac wedi gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch.

Nodwn hefyd fod rheoliad 23 yn cyfeirio at “Atodlen 1” i Orchymyn Llywodraeth Leol (Ardrethu Annomestig) (Diwygiadau Canlyniadol) (Lloegr) 2008. Fodd bynnag, dim ond un Atodlen sydd i’r Gorchymyn hwnnw, a dylid cyfeirio ati fel “yr Atodlen”.

 

 

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i bwyntiau adrodd 1 a 3.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2024 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.

 

 



[1] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).